UWIC vs Prifysgol Caerdydd: Talwrn Barddol
Lleoliad: Llwyfan Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru
Amser: 5.30 – 7.00 pm
Mynediad am ddim
Digwyddiad Saesneg
Deg myfyriwr. Dwy brifysgol. Un pencampwr. Ymunwch ag UWIC a Phrifysgol Caerdydd ar gyfer eu talwrn barddol wrth i bum myfyriwr o bob prifysgol herio’r tîm arall gyda’i geiriau miniog. Bydd y bardd-berfformiwr Ifor Thomas yn cyflwyno pob rownd, yn cynnwys rownd o ddychanu’r tîm arall, odli di-ben-draw, a chrimpio yn steil y Mighty Boosh.
Mae’r ddau dîm eisoes yn paratoi eu strategaethau geiriol ar gyfer y diwrnod mawr, felly dewch i gefnogi eich tîm, a phledleisio dros y perfformiadau gorau.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich tocynnau am ddim, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
——————————————————————————————————————————————–
UWIC vs Cardiff Uni: A Poetry Battle
Venue: Glanfa Stage, Wales Millennium Centre
Time: 5.30 – 7.00 pm
Free Entry
English Event
Ten students. Two Universities. One Winner. Join UWIC and Cardiff University for their inaugural poetry battle as five students from each university come forward to show the other team what their wits and words are made of. Performance poet Ifor Thomas will host each round, including rhymes, poetic insults and Mighty-Boosh style crimping.
Come and show your colours, pick your team and get ready to vote for the most electrifying performances. Both teams are currently plotting their lyrical strategies for the big day, of which the audience will be the judges!
For further information and to reserve your free ticket please contact Literature Wales:
029 2047 2266 / post@literaturewales.org
Clwb Llyfrau: Into Suez
2.00 – 3.00 pm
Lleoliad: Llawr cyntaf Bar One, Canolfan Mileniwm Cymru
Digwyddiad Saesneg
Bydd yr awdur dawnus Stevie Davies yn darllen darnau ac yn trafod ei nofel Into Suez (Parthian, 2012). Stori yw hon am gyfeillgarwch, cariad a phenderfyniadau anodd, wedi ei gosod yn erbyn cefndir o densiwn gwleidyddol a phersonol. Yn dilyn y darlleniad, bydd Grahame Davies yn arwain y drafodaeth.
Mae tocynau i’r Clwb Llyfrau yn rhad ac am ddim, ond yn gyfyngedig. I archebu eich lle, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
Mae’r Clwb Llyfrau yn cael ei weinyddu ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, a caiff ei gynnal yn fisol un âi yn Saesneg neu yn y Gymraeg.
———————————————————————————————————————————————–
Book Club: Into Suez
2.00 – 3.00 pm
Venue: Upstairs in Bar One, Wales Millennium Centre
English Event
Award-winning writer Stevie Davies will read from and discuss her absorbing novel Into Suez (Parthian, 2010). This is a story of friendship, love and painful decisions, set against a background of tension, as both the political and the personal build to a crisis. Following the reading,
Grahame Davies will lead the discussion.
Spaces at Book Club events are free but limited: to book your place please contact Literature Wales: 029 2047 2266 / post@literaturewales.org
Book Club is a collaboration between Literature Wales and Wales Millennium Centre, and takes place on a monthly basis in either the Welsh or English Language.
Twist ar Dalwrn
2.00 pm – 3.00 pm
Lleoliad: Llwyfan Glanfa, Canolfan y Mileniwm
Mynediad am ddim
Digwyddiad Cymraeg
Dyma dalwrn gyda thro yn ei gynffon. Bydd dau dîm dan arweiniad y bardd, y rapiwr a’r cyflwynydd teledu Aneirin Karadog, ac ennillydd coron yr Urdd 2010 a 2011 Llŷr Gwyn Lewis, yn mynd ben ben mewn rowndiau anarferol iawn. Yn ogystal a perfformiadau dramatig o gerddi a pharodiau, bydd y ddau dim yn troi eu llaw at rapio a crimpio yn steil y Mighty Boosh! Y gynulleidfa fydd yn pledleisio, felly dewch yn llu!
Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocyn yn rhad ac am ddim cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
————————————————————————————————————————————
A Twist on a Poetry Competition
2.00 pm – 3.00 pm
Venue: Glanfa Stage, Wales Millenium Centre
Free Entry
Welsh Event
Expect a poetry competition with a twist. Two teams lead by the poet, rapper and TV presenter Aneirin Karadog, and the crown winner at the Urdd Eisteddfod in 2010 and 2011 Llŷr Gwyn Lewis will go head to head with brand new tasks. Including giving dramatic performances of poems and parodies, both team will try their hand at rapping and crimping in the style of The Mighty Boosh.
The audience will decide on the winners, so come and show your support!
For further information and to reserve your free ticket please contact Literature Wales: 029 2047 2266 / post@literaturewales.org
Gigl ar y Glanfa
12.30 pm – 2.00 pm
Lleoliad: Llwyfan Glanfa, Canolfan y Mileniwm
Digwyddiad Saesneg
Dewch i fwyta eich cinio o flaen Llwyfan Glanfa, lle bydd llond dyrnaid o berfformwyr yn barod i’ch diddanu . Ond gwyliwch dagu ar eich brechdan – rhaid eich rhybuddio y gall ambell berfformiad fod yn ddoniol tu hwnt!
12.30 pm – 1.00 pm : Mae Mab Jones yn barddoni, yn ysgrifennu ac mae hi wedi perfformio ledled y Deyrnas Unedig, yn Japan ac yn America. Enillodd gystadleuaeth perfformio barddoniaeth John Tripp yn 2007, a chyrhaeddodd y rowndiau cynderfynol yng nghystadleuthau Funny Women a National Poetry Slam Radio 4. Mab sy’n trefnu nosweithiau llwyddiannus Pecha Kucha yng Nghaerdydd.
1.00 pm – 1.30 pm : Mae Rhian Edwards yn cyfansoddi barddoniaeth a geiriau i ganeuon, mae hi’n berfformwraig ac yn gerddor dawnus. Daw’n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, ond mae ganddi ddilyniant enfawr bellach yn y brifddinas a thu hwnt. Mae hi wedi perfformio ar Radio 3, yng ngwyliau cerddorol Latitude a Greenman, yng ngŵyl lenyddol Lacharn ac amryw i le arall. Coronwyd Rhian fel y Poetry Idol yn 2003, a bydd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth Clueless Dogs yn cael ei gyhoeddi gan Seren yn 2012.
1.30 pm – 2.00 pm : Bardd a pherfformiwr yw Ifor Thomas, sy’n byw yng Nghaerdydd. Yn y gorffennol mae wedi ennill gwobr John Tripp am berfformio barddoniaeth, a bu’n llwyddiannus yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Ryngwladol Caerdydd. Llwyddodd ei gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth, Body Beautiful (Parthian, 2005) i gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2006.
———————————————————————————————————————————————–
Giggle on the Glanfa
12.30 pm – 2.00 pm
Venue: Glanfa Stage, Wales Millennium Centre
English Event
Enjoy your lunch in front of the Glanfa Stage whilst three poets entertain you. Be warned: you may choke on your sandwich as some of these performances can be very funny!
12.30 pm – 1.00 pm : Mab Jones has performed all around the UK, as well as in Japan and America . She won the John Tripp Spoken Poetry Audience Award in 2007 and was a semi-finalist in the Funny Women and Radio 4 National Poetry Slam competitions. Mab runs the popular Pecha Kucka nights in Cardiff.
1.00 pm – 1.30 pm : Rhian Edwards writes poetry and lyrics and is a talented performer and musician. She comes originally from Bridgend, but her following is now widespread across the Cardiff and beyond. She has performed on Radio Three, at Latitude, Green Man and Laugharne Festivals. Rhian was crowned as 2003’s Poetry Idol, and her first collection of poetry, Clueless Dogs, is being published by Seren in 2012.
1.30 pm – 2.00 pm : Ifor Thomas is a poet and a performer who lives in Cardiff. He has won the John Tripp Award for spoken poetry and has been a prizewinner in the Cardiff International Poetry Competition. His most recent collection of poems is Stalking Paloma (Parthian, 2011).
Archwilio Caerdydd : ysgrifennu am leoliad gyda Tom Anderson
10.00 – 4.00 pm
Gweithdy caeedig i Sgwad ‘Sgwennu Torfaen
Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Digwyddiad Saesneg
Bydd Sgwad ‘Sgwennu Torfaen yn ymuno â’r ysgrifennydd taith a’r syrffiwr brwd Tom Anderson i archwilio’r triciau a’r technegau i ysgrifennu am leoliad ac am daith. Caiff y grŵp gyfle i archwilio Bae Caerdydd, a thynnu lluniau o’r golygfeydd ar gamerâu, a chofnodi arsylwadau ar bapur.Yn gweithio gyda’r ffotograffau, bydd yr ysgrifennwyr ifainc yn creu cyfanweithiau newydd sbon wedi eu selio ar arsylwadau’r bore.
Perfformiad cyhoeddus: am 4.00 pm bydd y Sgwad ‘Sgwennu yn perfformio eu gwaith yn Stiwdio Weston gyda’r lluniau a dynnwyd yn y Bae yn cael eu harddangos yn y cefndir. Bydd y perfformiad ar y cyd â Sgwad ‘Sgwennu Merthyr. Croesawir pawb yn gynnes ar gyfer gwrandawiad o waith y genhedlaeth nesaf o ysgrifennwyr yng Nghymru.
——————————————————————————————————————————-
The art of exploration: writing about place with Tom Anderson
10.00 – 4.00 pm
Closed workshop for Torfaen Writing Squad
Venue: Wales Millennium Centre, Cardiff Bay
English Event
Torfaen Writing Squad will join travel writer and surf enthusiast Tom Anderson to explore the tricks and techniques for writing about place and journey. The group will have the opportunity to explore Cardiff Bay, capturing the sights on disposable cameras, and making observations in their notebooks. Working with their photographs, the young writers will create some new work based on the morning’s research and exploration.
Open performance: at 4.00 pm the Writing Squad will perform their work in the Weston Studio against a backdrop of the photographs taken earlier. They will share the stage with the Merthyr Writing Squad. Everyone is welcome to attend to listen to the work of Wales’ future generation of writers.
Weston Studio, 8.00 pm
Performance poet Luke Wright will present his current show Cynical Ballads: eight caustic tales from Broken Britain. Between each poem Luke offers a pithy crash course in the history of balladry accompanied by stunning Steadman-esque illustrations, courtesy of Sam Ratcliffe. Visit Luke’s website to find out more about his performances and work.
Tickets for Cynical Ballads are now on sale. The first 30 tickets are a mere £8.00 each so book now to get a bargain price. (From here on the tickets range from £8.00 to £12.00.)
To book yours today phone the Wales Millennium Centre Box Office: 029 2063 6464.
If you have any enquries about the DayLit programme, please contact Literature Wales: 029 2047 2266 / post@literaturewales.org
Stiwdio Weston, 8.00 pm
Bydd Luke yn cyflwyno ei sioe Cynical Ballads: eight caustic tales from Broken Britain. Rhwng bob cerdd mae Luke yn cynnig gwersi cyflym ar hanes baledi, gyda lluniau Stedman-esque anhygoel, diolch i Sam Ratcliffe. Gwibiwch draw i wefan Luke i ddarganfod mwy am ei berfformiad a’i waith.
Mae tocynnau ar gyfer Cynical Ballads nawr ar werth. Dim ond £8.00 yr un yw’r 30 tocyn cyntaf, felly archebwch nawr i gael bargen. (Yna bydd y tocynnau yn amrywio o £8.00 i £12.00).
I archebu eich tocynnau cysylltwch â Swyddfa Docynnau Canolfan y Mileniwm: 029 2063 6464.
Os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch rhaglen Gŵyl y Gair, cysylltwch os gwelwch yn dda â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
Mae llinell docynnau Gŵyl Llên y Lli 2010 – Deffro’r Dychymyg nawr ar agor. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael i rai o’r digwyddiadau a’r gweithdai, felly archebwch eich lle mewn da bryd rhag cael eich siomi.
Llinell Docynnau: 029 2047 2266
Bydd gostyngiad ar gael i’r canlynol:
• Myfyrwyr
• Di-waith
• Aelodau a Chefnogwyr yr Academi
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ŵyl, cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 / post@academi.org
—–
The festival booking line is now open. A number of events and workshops have a limited number of tickets and places available, early booking is recommended to avoid disappointment.
Ticket Line: 029 2047 2266
Concessionary ticket rates apply for the following:
• Students
• Unwaged
• Academi Members and Associates
For more information on BayLit Shock of the New contact Academi:
029 2047 2266 / post@academi.org



